DewiEVANSYn dawel yn ei gwsg ar nos Sul, Mawrth 15, 2015 hunodd Dewi, Nash Avenue, Caerfyrddin; priod ffyddlon Averil, brawd annwyl, wncwl hoffus a chyfaill ffyddlon. Blaenor ac Ysgrifennydd Capel Bethania, Caerfyrddin. Angladd dydd Mercher, Mawrth 25, gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 1.45yp. Dim blodau, rhoddion er cof, os dymunir, tuag at Uned Dialysis, Ysbyty Glangwili trwy law yr ymgymerwyr Glanmor D Evans a'i Fab, Capel Gorffwys Login, Heol Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PG. Ffôn 01267 241626.
Keep me informed of updates